
Heriau’r Wythnos Fawr

0 / 1000 challenges
Play Video
Gair am Wythnos Fawr yng Nghymru Fach
Cenhadaeth
Fel rhan o Wythnos Fawr yng Nghymru Fach, ein cenhadaeth yw dod â chymunedau at ei gilydd trwy ddigwyddiadau codi arian, gan gefnogi elusennau allweddol ar gyfer y rhai mwyaf bregus. Rydym yn hyrwyddo cydweithredu a phositifrwydd, gan gael effaith barhaol ar y rheiny mewn angen. Mae ein heriau creadigol ar thema 1000 yn annog bawb i gyfrannu, waeth beth fo’ch oedran neu’ch gallu. Wrth i ni drafaelio cylchedd Cymru, sef 1,000 milltir, rydym yn ymgorffori ysbryd Cymru wrth anrhydeddu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ein cenedl.

Mae Wythnos Fawr yng Nghymru Fach yn ddigwyddiad gyda’r nod o helpu elusennau allweddol sy’n cefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau ledled Cymru a dod â phobl at ei gilydd drwy ddigwyddiadau codi arian, a hynny er mwyn brwydro yn erbyn unigrwydd a rhannu positifrwydd pan fo ei angen arnom fwyaf.
🏴
Mae’r enw yn cydnabod cylchedd Cymru sef 1,000 milltir, ac mae’r digwyddiad yn cyflwyno amrywiaeth o heriau yn y gymuned yn seiliedig ar thema 1000.
🏃
Prif nodwedd ymgyrch Wythnos Fawr yng Nghymru Fach yw teithio cylchedd Cymru yn rhithwir, sy'n cychwyn o gartref Nanny Biscuit, ar ddechrau Llwybr Arfordir Cymru yng Nglannau Dyfrdwy.
🏆
Rydyn ni’n annog pawb, o bob oedran a gallu, i ymuno â’n gweithgareddau mawr Cymreig drwy gydol mis Mehefin. Rydyn ni wedi gosod nifer o heriau sy’n seiliedig ar y rhif 1000 y gallwch gymryd rhan ynddynt yn yr ysgol ac yn y cartref. Rydyn ni hefyd yn eich croesawu i gynnig eich heriau eich hun ar y thema hon i helpu ein cymuned a chodi arian.
🏞
Gobeithiwn y gall pob un ohonoch chi gymryd rhan mewn ras gyfnewid rithiol gan efelychu teithio o amgylch cylchedd Cymru mewn unrhyw ffordd bosib. Gallwch chi redeg, cerdded, beicio, rhwyfo gartref ar felin draed neu beiriant ymarfer corff, neu fel rhan o’ch ymarfer corff dyddiol yn yr awyr agored. #RasGyfnewidCymru
🏅
Bydd Beverley Jones, enillydd medal Efydd Gemau Paralympaidd Prydain Fawr yn 2012 a’r athletwr o Gymru, yn rhedeg y filltir gyntaf.
Caiff arian a godir ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach ei ddosbarthu fel y canlynol: bydd 20% yn mynd i Nanny Biscuit i fynd i’r afael â thlodi bwyd, unigedd ac unigrwydd, a bydd y gweddill yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal rhwng ein sefydliadau partner cenedlaethol gwych;
bydd 20% yn mynd i Nanny Biscuit i fynd i’r afael â thlodi bwyd, unigedd ac unigrwydd, a bydd y gweddill yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal rhwng ein sefydliadau partner cenedlaethol gwych;
Heriau’r Wythnos Fawr
Rydych chi’n wych!
Trwy gyfrannu at Wythnos Fawr yng Nghymru Fach, byddwch chi’n helpu Nanny Biscuit a’n sefydliadau partner i barhau i gyrraedd y rhai sydd ein hangen fwyaf.
Mewn partneriaeth â













Anfonwch neges atom



