Cynnydd yr Her Cacennau Cri Mawr Cymru
0 / 1000 cakes enjoyed

Pam Cacennau Cri Mawr Cymru?

Rhan o dreftadaeth a diwylliant Cymru sydd â lle yng nghalonnau’r genedl yw cacennau cri, ac rydym am arddangos eu blas a’u creadigrwydd trwy Her Cacennau Cri Cymru yn ystod Wythnos Fawr yng Nghymru Fach. Trwy gymryd rhan yn yr her hon, gallwch gefnogi ein hymdrechion i godi arian a helpu’r rhai mewn angen ledled Cymru. Ymunwch â ni i ddathlu’r traddodiad Cymreig a gwneud gwahaniaeth!

Beth yw’r her Cacennau Cri Mawr Cymru?

Bydd unrhyw gacennau cri rydych chi’n eu gwneud, boed yn llawer neu ychydig yn unig, i gyd yn cyfrannu at ein cyfanswm. Os ydych chi wedi llwyddo i werthu unrhyw rai o’ch danteithion – nodwch eich arian isod!
Wrth i deuluoedd ac unigolion gymryd rhan ledled Cymru, rydyn ni’n gobeithio dod â chymunedau at ei gilydd a chodi ysbryd trwy rannu nod cyffredin, a buddsoddi ein hegni mewn gweithgareddau hwyl, traddodiadol. Pwy a ŵyr, efallai y byddwch chi’n dysgu sgil newydd yn y broses!

Sut ydw i’n gallu cymryd rhan?

Mae hawdd iawn cymryd rhan yn ein her #cacennaucrimawrcymru!

Dilynwch eich rysáit dibynadwy ar gyfer cacennau cri neu defnyddiwch y rysáit isod.

Ar ôl i chi wneud eich cacennau cri, cliciwch ar y botwm isod a llenwch y ffurflen gan nodi faint rydych chi wedi’u gwneud ac o ba ran o Gymru rydych chi’n dod.

Byddem hefyd wrth ein boddau’n gweld lluniau ohonoch wrth i chi greu eich cacennau cri; naill ai’r creadigaethau gorffenedig neu hyd yn oed lluniau ohonoch chi’n mwynhau eich gwaith pobi! 

Anfonwch y lluniau atom ni neu eu rhannu nhw ar gyfryngau cymdeithasol a thagio Nanny Biscuit a defnyddiwch yr hashnodau #wythnosfawryngnghymrufach a #cacennaucrimawrcymru.

Byddwn ni’n eu rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan, gyda’r nod o arddangos talentau pobi pobl o bob cwr o Gymru!

Rysáit

Cynhwysion

  • 225g blawd plaen
  • 85g siwgr mân
  • ½ llwy de sbeisys cymysg
  • ½ llwy de powdwr pobi
  • 50g menyn, mewn darnau bach
  • 50g lard, mewn darnau bach, a bach ychwanegol i’w ffrio
  • 50g cyrens
  • 1 wy wedi’i guro
  • Bach o laeth

Dull

CAM 1:

Rhowch y blawd, siwgr, sbeisys cymysg, powdr pobi a phinsiad o halen mewn powlen. Yna, gyda’ch bysedd, rhwbiwch y menyn a’r lard i’r cynhwysion nes ei fod yn friwsionllyd. Ychwanegwch y cyrens. Cymysgwch yr wy yn y gymysgedd nes bod gennych toes meddal, gan ychwanegu bach o laeth os yw ychydig yn sych – dylai fod yr un trwch â crwst brau.

CAM 2:

Rholiwch y toes ar wyneb gwaith sydd â bach o flawd arno i drwch sy’n debyg i’ch bys bach. Torrwch y cylchoedd bach gan ddefnyddio torrwr 6cm, gan ail-rolio unrhyw darnau sy’n weddill i ddefnyddio’r toes i gyd. Rhowch lard ar badell benfflat neu badell ffrio trwm, a’i roi dros wres canolig. Coginiwch y pice ar y maen mewn sypiau, am tua 3 munud ar bob ochr, nes eu bod yn frown euraidd, yn grimp ac wedi’u coginio drwyddynt. Maen nhw’n cael eu gweini’n gynnes gyda menyn a jam, neu â siwgr mân yn unig. Bydd y cacennau cri’n aros yn ffres mewn tun am wythnos.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud nawr yw gosod targed i chi’ch hun a chael cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan. Gallech chi hefyd ddefnyddio hwn fel cyfle i godi arian ar gyfer Nanny Biscuit neu elusen leol o’ch dewis. fundraise for Nanny Biscuit or a local charity of your choice.

Caiff arian a godir ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach ei ddosbarthu fel y canlynol;

Bydd 20% yn mynd i Nanny Biscuit i fynd i’r afael â thlodi bwyd, unigedd ac unigrwydd, a bydd y gweddill yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal rhwng ein sefydliadau partner cenedlaethol gwych;

Rhoi arian

Trwy gyfrannu at Wythnos Fawr yng Nghymru Fach, byddwch chi’n helpu Nanny Biscuit a’n sefydliadau partner i barhau i gyrraedd y rhai sydd ein hangen fwyaf.

Barod i ddechrau codi arian?

Crëwch eich tudalen i godi arian am ddim ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach a dechrau casglu nawdd a rhoddion gan ffrindiau a theulu.

Heriau’r Wythnos Fawr

Mewn partneriaeth â

DILYNWCH NI AR

Anfonwch neges atom

© 2023 Wythnos Fawr yng Nghymru Fach
Cedwir pob hawl
Map o’r Safle
cyWelsh