Cynnydd yr Her Cloddio Mawr Cymru
0 / 1000 daffodils planted
Pam Cloddio Mawr Cymru?
Mae’r person cyffredin yn y DU yn cynhyrchu rhwng 8 a 15 tunnell o C02 y flwyddyn sy’n un o'r prif gyfranwyr tuag at newid yn yr hinsawdd a achosir gan ddyn. Rydyn ni’n wirioneddol ar bwynt tyngedfennol o ran iechyd a dyfodol y blaned hon ac mae angen gweithredu nawr i ddiogelu’r blaned a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae plannu coed yn gallu helpu i gydbwyso’r Allyriadau Carbon cynyddol sy’n dod yn sgil gweithgarwch pobl. Yma, gallwch chi weld faint o goed y byddai’n eu cymryd i wrthbwyso allyriadau carbon trwy gydol eich oes.
- Gyda hyd oes cyfartalog o 40 mlynedd y goeden.
- Cyfartaledd o 20KG o garbon sy’n cael ei amsugno bob blwyddyn
- 8 i 15 tunnell = 8,000 i 15,000KG y flwyddyn.
- Felly ar gyfer un person mae angen plannu 400 i 750 o goed bob 40 mlynedd.
- Rhaid i’r coed gael digon o le i dyfu er mwyn dal ati i amsugno C02 am y 40 mlynedd.