Cynnydd yr Her Caredigrwydd Mawr Cymru

0 / 1000 acts of kindness
Pam Caredigrwydd Mawr Cymru?
Mae ein gwlad angen enghreifftiau o garedigrwydd ar hap. P’un ai’n alwad ffôn i berthynas oedrannus i ddweud wrtho eich bod chi’n meddwl amdano, helpu eich cymydog gyda’r siopa neu ofalu am anifail anwes nad yw’n teimlo’n hwylus, rydyn ni eisiau gwybod.
Rhaid cofio’r pŵer y gall enghraifft seml o garedigrwydd ei chael ar fywyd person neu anifail.
Beth yw’r Her Caredigrwydd Mawr Cymru?
Rydyn ni’n bwriadu cofnodi o leiaf 1,000 o enghreifftiau o garedigrwydd y gallech chi fod wedi’u gwneud, eu derbyn neu eu gweld. Gellir rhannu pob enghraifft garedig ar hap i ddod â gwên i’r genedl!
Sut ydw i’n gallu cymryd rhan?
I gymryd rhan, rhannwch neges ar gyfryngau cymdeithasol, gan dagio Nanny Biscuit, a defnyddio'r hashnodau #WythnosFawrYngNghymruFach a #CaredigrwyddMawrCymru.
Byddwn ni’n eu rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan i arddangos ein hysbryd cymunedol anhygoel ledled Cymru!
Rydyn ni hefyd yn eich annog i dynnu lluniau yn cwblhau eich rhan o’r ras gyfnewid. Byddwn wedyn yn rhannu’r rhain ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud nawr yw gosod targed i chi’ch hun a chael cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan. Gallech chi hefyd ddefnyddio hwn fel cyfle i godi arian ar gyfer Nanny Biscuit neu elusen leol o’ch dewis. fundraise for Nanny Biscuit or a local charity of your choice.
Caiff arian a godir ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach ei ddosbarthu fel y canlynol;
Bydd 20% yn mynd i Nanny Biscuit i fynd i’r afael â thlodi bwyd, unigedd ac unigrwydd, a bydd y gweddill yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal rhwng ein sefydliadau partner cenedlaethol gwych;
Rhoi arian
Trwy gyfrannu at Wythnos Fawr yng Nghymru Fach, byddwch chi’n helpu Nanny Biscuit a’n sefydliadau partner i barhau i gyrraedd y rhai sydd ein hangen fwyaf.
Barod i ddechrau codi arian?
Crëwch eich tudalen i godi arian am ddim ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach a dechrau casglu nawdd a rhoddion gan ffrindiau a theulu.
Heriau’r Wythnos Fawr
Mewn partneriaeth â













Anfonwch neges atom



