Cynnydd yr Her Llythyrau Mawr Cymru

0 / 1000 letters sent
Pam Llythyrau Mawr Cymru?
Rydyn ni’n chwilio am ysgolion, grwpiau cymunedol ac unigolion i gyfnewid llythyrau neu gardiau gyda phobl mewn cartrefi nyrsio/ymddeol.
Ydych chi’n gwybod unrhyw sefydliadau a fyddai â diddordeb mewn cymryd rhan?
Sut ydw i’n gallu cymryd rhan?
Mae’n hawdd iawn cymryd rhan yn ein her #LlythyrauMawrCymru
Ar ôl anfon eich llythyr, cliciwch ar y botwm isod, gan nodi faint o lythyrau rydych chi wedi’u hanfon neu eu cael.
Byddem hefyd wrth ein boddau’n gweld lluniau o’ch llythyrau neu’ch cardiau ond gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n rhannu unrhyw gyfeiriadau!
Anfonwch y lluniau atom ni neu eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, gan dagio Nanny Biscuit a defnyddio’r hashnodau #WythnosFawrYngNghymruFach a #LlythyrauMawrCymru.
Byddwn ni’n eu rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan, gyda'r nod o arddangos y cysylltiadau a rennir rhwng trigolion hen ac ifanc o bob rhan o Gymru!
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud nawr yw gosod targed i chi’ch hun a chael cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan. Gallech chi hefyd ddefnyddio hwn fel cyfle i godi arian ar gyfer Nanny Biscuit neu elusen leol o’ch dewis. fundraise for Nanny Biscuit or a local charity of your choice.
Caiff arian a godir ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach ei ddosbarthu fel y canlynol;
Bydd 20% yn mynd i Nanny Biscuit i fynd i’r afael â thlodi bwyd, unigedd ac unigrwydd, a bydd y gweddill yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal rhwng ein sefydliadau partner cenedlaethol gwych;
Rhoi arian
Trwy gyfrannu at Wythnos Fawr yng Nghymru Fach, byddwch chi’n helpu Nanny Biscuit a’n sefydliadau partner i barhau i gyrraedd y rhai sydd ein hangen fwyaf.
Barod i ddechrau codi arian?
Crëwch eich tudalen i godi arian am ddim ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach a dechrau casglu nawdd a rhoddion gan ffrindiau a theulu.
Heriau’r Wythnos Fawr
Mewn partneriaeth â













Anfonwch neges atom



