Cynnydd yr Her Cerddoriaeth Fawr Cymru
0 / 1000 musical performances

Pam Cerddoriaeth Fawr Cymru?

Mae traddodiadau cerddorol Cymru’n rhan fawr iawn o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru, gyda hanes hirsefydlog o berfformiadau bywiog a chanu corawl llawen. Wrth i ni edrych ymlaen at y dyfodol, mae’n bwysig cydnabod a dathlu’r dreftadaeth gerddorol gyfoethog sydd gan Gymru i’w gynnig. Felly, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer Cerddoriaeth Fawr Cymru, sef cyfle i ddathlu talentau cerddorol amrywiol Cymru.
Nid digwyddiad yn unig yw Cerddoriaeth Fawr Cymru, ond cyfle i ddathlu pŵer cerddoriaeth a’i gallu i uno pobl. P’un a ydyn ni’n sôn am egni perfformiadau byw neu harmonïau cynhyrfus corau a’u canu, rydyn ni’n credu bod gan gerddoriaeth y pŵer i godi ysbryd a dod â phobl at ei gilydd. Felly, rydyn ni’n gwahodd pawb i ddathlu cerddoriaeth Cymru, ac i ymhyfrydu ym mhrofiad cyfunol y diwylliant cerddorol unigryw hwn.

Beth yw’r her Cerddoriaeth Fawr Cymru

Rydyn ni eisiau casglu 1000 o berfformiadau cerddorol, boed hynny’n canu, chwarae offeryn neu unrhyw dalent gerddorol arall sydd gennych. Mae pob person yn berfformiwr i ychwanegu at ein cyfanswm o 1,000! Hoffem ni glywed cerddoriaeth a gweld perfformiadau o ystod eang o genres o gerddoriaeth ac o bob cornel o’n gwlad.
Bydd ein her Cerddoriaeth Fawr Cymru’n dod i ben wrth i ni ddewis rhai cyfranogwyr i recordio a chanu Anthem Genedlaethol Cymru ar y cyd â’r cyfranogwyr eraill, ynghyd â fideo o’r gweithgareddau eraill sydd wedi cael eu cynnal dros yr wythnos.

Sut ydw i’n gallu cymryd rhan?

Mae’n hawdd iawn cymryd rhan yn yr her #cerddoriaethfawrcymru!

Ewch ati i greu fideo o’ch perfformiad a’i rannu ar gyfryngau cymdeithasol, gan dagio Nanny Biscuit a defnyddio’r hashnodau #wythnosfawryngnghymrufach a #cerddoriaethfawrcymru.

Byddwn ni’n eu rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan, gyda’r nod o ddangos talentau cerddorion o bob rhan o Gymru!

Angen bach o ysbrydoliaeth? Mae un o’n sefydliadau partner, YAB yn Wrecsam, yn cynnal y digwyddiad hwn!

Cyfle i ddathlu a chodi arian ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach gyda phiano-thon!

Mae cylchedd Cymru yn agos at 1000 milltir, ac fel rhan o dasg enfawr i godi arian ar gyfer Wythnos Fawr Yng Nghymru Fach, bydd aelodau ein cymuned yn canu piano Crane and Sons a adeiladwyd yn Wrecsam bron i 100 mlynedd yn ôl, a hynny yn barhaus am 1000 munud yn ystod digwyddiad ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach! Bydd yn digwydd rhwng 8am a 10.30pm.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud nawr yw gosod targed i chi’ch hun a chael cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan. Gallech chi hefyd ddefnyddio hwn fel cyfle i godi arian ar gyfer Nanny Biscuit neu elusen leol o’ch dewis. fundraise for Nanny Biscuit or a local charity of your choice.

Caiff arian a godir ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach ei ddosbarthu fel y canlynol;

Bydd 20% yn mynd i Nanny Biscuit i fynd i’r afael â thlodi bwyd, unigedd ac unigrwydd, a bydd y gweddill yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal rhwng ein sefydliadau partner cenedlaethol gwych;

Rhoi arian

Trwy gyfrannu at Wythnos Fawr yng Nghymru Fach, byddwch chi’n helpu Nanny Biscuit a’n sefydliadau partner i barhau i gyrraedd y rhai sydd ein hangen fwyaf.

Barod i ddechrau codi arian?

Crëwch eich tudalen i godi arian am ddim ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach a dechrau casglu nawdd a rhoddion gan ffrindiau a theulu.

Heriau’r Wythnos Fawr

Mewn partneriaeth â

DILYNWCH NI AR

Anfonwch neges atom

© 2023 Wythnos Fawr yng Nghymru Fach
Cedwir pob hawl
Map o’r Safle
cyWelsh