Cynnydd yr Her Codi Sbwriel Mawr Cymru

0 / 1000 litter picked
Pam Codi Sbwriel Mawr Cymru?
Ni fu’r diwylliant gwastraffu a diffyg cynefinoedd gwyllt i anifeiliaid ledled y byd erioed mor ddifrifol ag y mae nawr! Y broblem gyda phlastig, yn enwedig plastig untro, yw un o’r materion amgylcheddol mwyaf y mae’r byd modern yn ei wynebu.
Wrth i safleoedd tirlenwi fynd yn fwyfwy llawn, rydyn ni’n gweld plastig ym mhobman yn y byd naturiol. Mae’n rhaid i ni weithredu nawr!
Felly, un o’r heriau yr ydym wedi’u gosod ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach 2023 yw casglu 1000 o fagiau o sbwriel #CodiSbwrielMawrCymru #GrandWelshPick
Beth yw’r her Codi Sbwriel Mawr Cymru?
Rydyn ni’n gofyn am eich help i gasglu bagiau o sbwriel ledled Cymru ac i wneud eich rhan i lanhau’r llanast dros y byd i gyd. Rhaid i’r bagiau fod yr un maint â bagiau bin neu’n fwy.
Green Paw Project and One Global Ocean aim to run and connect litter picking groups around Wales to achieve our goal of picking and collecting 1000 bags of litter over the week from 1st of June.
The Grand Welsh Litter is a joint project where other organisations are involved from all over Wales. The two main partnering organisations are Green Paw Project and One Global Ocean.
Mae sefydliadau eraill sy’n gysylltiedig â’r prosiect yn cynnwys:
Sut ydw i’n gallu cymryd rhan?
Mae’n hawdd iawn cymryd rhan yn ein her #codisbwrielmawrcymru!
Ar ôl i chi godi a chasglu eich sbwriel/plastig, cliciwch ar y botwm isod a llenwch y ffurflen gan nodi faint o fagiau rydych chi wedi’u casglu ac o ba ran o Gymru rydych chi’n dod.
Rydyn ni hefyd yn eich annog i dynnu lluniau ohonoch chi’ch hun yn codi a chasglu’r sbwriel. Byddwn ni wedyn yn rhannu’r rhain ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud nawr yw gosod targed i chi’ch hun a chael cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan. Gallech chi hefyd ddefnyddio hwn fel cyfle i godi arian ar gyfer Nanny Biscuit neu elusen leol o’ch dewis. fundraise for Nanny Biscuit or a local charity of your choice.
Caiff arian a godir ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach ei ddosbarthu fel y canlynol;
Bydd 20% yn mynd i Nanny Biscuit i fynd i’r afael â thlodi bwyd, unigedd ac unigrwydd, a bydd y gweddill yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal rhwng ein sefydliadau partner cenedlaethol gwych;
Rhoi arian
Trwy gyfrannu at Wythnos Fawr yng Nghymru Fach, byddwch chi’n helpu Nanny Biscuit a’n sefydliadau partner i barhau i gyrraedd y rhai sydd ein hangen fwyaf.
Barod i ddechrau codi arian?
Crëwch eich tudalen i godi arian am ddim ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach a dechrau casglu nawdd a rhoddion gan ffrindiau a theulu.
Heriau’r Wythnos Fawr
Mewn partneriaeth â













Anfonwch neges atom



