Cynnydd yr Her Ras Gyfnewid Fawr Cymru
0 / 1000 miles

Pam Ras Gyfnewid Fawr Cymru?

Mae Wythnos Fawr yng Nghymru Fach yn ddigwyddiad sydd wedi’i gynllunio i godi calon cymunedau ledled Cymru drwy gefnogi elusennau allweddol sy’n helpu’r aelodau mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Trwy gyfres o ddigwyddiadau codi arian deniadol, ein nod yw meithrin cysylltiadau, lledaenu positifrwydd, a hyrwyddo ysbryd undod ledled Cymru. Ymunwch â ni i ddathlu ewyllys da a helpu i gael effaith sylweddol ar fywydau’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Beth yw’r her Ras Gyfnewid Fawr Cymru?

Mae Ras Gyfnewid Fawr Cymru yn gylchdaith rithwir o gwmpas ffin Cymru sef 1,000 milltir y gallwch drafaelio o’ch cartref neu fel rhan o’ch ymarfer corff dyddiol yn yr awyr agored. Chi sydd i benderfynu, sut, ble neu pan fyddwch chi’n cwblhau eich milltiroedd!
Mae awgrymiadau’n cynnwys; rhedeg, cerdded, beicio, nofio neu rwyfo ar beiriant rhes. Rydyn ni hefyd yn eich annog i lunio eich heriau eich hun neu ymuno â ffrindiau neu dîm chwaraeon lleol a gosod targed y gallech ei gyrraedd gyda’ch gilydd o fewn yr wythnos.
Byddwn ni’n diweddaru cynnydd y ras gyfnewid ar gyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd ac yn cynnwys lluniau gan y rheiny sy’n cymryd rhan ledled y wlad, gan ddangos golygfeydd gwych Cymru.
Bydd Beverley Jones, enillydd medal efydd Gemau Paralympaidd Prydain Fawr, yn rhedeg y filltir gyntaf, gan ddechrau o gartref Nanny Biscuit yng Nglannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru.
Rydyn ni’n gwybod y gall her fel hon roi ymdeimlad o bwrpas i bobl yn ystod cyfnodau anodd, a gall helpu i ddod â chymunedau o bob cwr o’r wlad at ei gilydd ar adeg pan fyddwn i gyd yn cadw pellter corfforol oddi wrth ein gilydd.

Sut ydw i’n gallu cymryd rhan?

Mae logio eich milltiroedd fod yn hawdd iawn! Cliciwch y botwm isod a llenwch y ffurflen, gan nodi faint o filltiroedd yr ydych chi wedi’u cwblhau a’ch lleoliad.

Rydyn ni hefyd yn eich annog i dynnu lluniau yn cwblhau eich rhan o’r ras gyfnewid. Byddwn wedyn yn rhannu’r rhain ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud nawr yw gosod targed i chi’ch hun a chael cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan. Gallech chi hefyd ddefnyddio hwn fel cyfle i godi arian ar gyfer Nanny Biscuit neu elusen leol o’ch dewis. fundraise for Nanny Biscuit or a local charity of your choice.

Caiff arian a godir ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach ei ddosbarthu fel y canlynol: bydd 20% yn mynd i Nanny Biscuit i fynd i’r afael â thlodi bwyd, unigedd ac unigrwydd, a bydd y gweddill yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal rhwng ein sefydliadau partner cenedlaethol gwych;

Bydd 20% yn mynd i Nanny Biscuit i fynd i’r afael â thlodi bwyd, unigedd ac unigrwydd, a bydd y gweddill yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal rhwng ein sefydliadau partner cenedlaethol gwych;

Rhoi arian

Trwy gyfrannu at Wythnos Fawr yng Nghymru Fach, byddwch chi’n helpu Nanny Biscuit a’n sefydliadau partner i barhau i gyrraedd y rhai sydd ein hangen fwyaf.

Barod i ddechrau codi arian?

Crëwch eich tudalen i godi arian am ddim ar gyfer Wythnos Fawr yng Nghymru Fach a dechrau casglu nawdd a rhoddion gan ffrindiau a theulu.

Heriau’r Wythnos Fawr

Mewn partneriaeth â

DILYNWCH NI AR

Anfonwch neges atom

© 2023 Wythnos Fawr yng Nghymru Fach
Cedwir pob hawl
Map o’r Safle
cyWelsh